Er mwyn cymryd rhan yn ein gweithgareddau, byddwn yn casglu data personol gennych. Rydym yn gwneud hyn at ein dibenion monitro a gwerthuso ein gweithgareddau ein hunain, ond gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer adrodd i’n cyllidwyr amrywiol. Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn cael ei phrosesu gennym fel y gallwn gofnodi eich bod yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Ni yw’r Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth hon. Fel y Rheolydd Data, rydym yn gyfrifol am benderfynu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu ac at ba ddibenion. Pan fo data’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ymchwil, ni fydd unrhyw ddata a fydd yn datgelu pwy ydych yn cael ei gyhoeddi heb gydsyniad penodol yr unigolyn e.e. astudiaethau achos. Am restr o wybodaeth yr ydym yn ei chasglu am unigolion, lawrlwythwch Hysbysiad Preifatrwydd EESW - Gwybodaeth Bellach.
Os ydych chi'n cymryd rhan sydd naill ai'n byw neu'n astudio yng Ngorllewin, Gogledd Cymru a'r Cymoedd (neu athro sy'n gweithio mewn ysgol / coleg yn y rhanbarth hwn), bydd EESW hefyd yn casglu data ychwanegol oddi wrthych fel rhan o weithrediad STEM Cymru 2 ( gweithredu fel y Prosesydd Data). Am restr lawn o ddata a gasglwyd ar gyfer gweithrediad STEM Cymru 2, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Data Cyfranogwyr STEM Cymru 2.
Mae seiliau cyfreithlon perthnasol y GDPR ar gyfer casglu eich data personol fel a ganlyn:
Mae’r GDPR yn cydnabod bod rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif, ac yn cael eu dosbarthu fel “data categori arbennig”. Gall EESW gasglu data am iechyd unigolion er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn rhai o’n gweithgareddau, gan gyfeirio’n benodol at gyflyrau meddygol neu alergeddau, ac at ddibenion ymweliadau â chwmnïau neu ar gyfer aros dros nos mewn prifysgolion.
Mae EESW yn casglu a phrosesu’r data hwn er budd gwrthrych y data er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu diogelu, yn enwedig pobl ifanc. Caiff y data hwn ei gasglu gyda chydsyniad penodol gan y rhiant/gwarcheidwad/athro. Am restr o ddata categori arbennig a gasglwyd, gweler Hysbysiad Preifatrwydd EESW - Gwybodaeth Bellach.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi’r ffordd y mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Mae EESW yn rhannu gwybodaeth â thrydydd parti pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol yn unig.
Mae unrhyw drydydd parti’n cynnwys:
Bydd EESW yn defnyddio ymgyrchoedd marchnata ar ffurf negeseuon e-bost i athrawon, ysgolion a chyfranogwyr (i EESW a Headstart Cymru dim ond pan fo cyfranogwyr yn 16 oed neu’n hŷn). Cynhelir gwefan MailChimp y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r unig ddata a gaiff ei lanlwytho gan EESW i MailChimp yw’r enw, yr ysgol/cwmni a’r cyfeiriad e-bost. Mae MailChimp wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r GDPR ac mae wedi hunan-ardystio â chyfundrefnau EU-U.S. Privacy Shield a Swiss-U.S Privacy Shield ac mae’n trosglwyddo data personol yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gyfreithiol i’r UDA yn unol â’n Hardystiad Privacy Shield ni. Os hoffech optio allan ar unrhyw adeg, a fyddech cystal â chlicio ar y ddolen datdanysgrifio ar waelod yr e-bost. Os ydych yn datdanysgrifio fe allem gadw cofnod o’ch gwybodaeth bersonol er mwyn sicrhau nad ydym yn anfon rhagor o ohebiaeth atoch.
At ddibenion gwirio, bydd unrhyw ddata yr ydych yn ei roi i ni yn cael ei gadw’n unol â’n polisi ar gyfer cadw dogfennau a hynny am dair blynedd o leiaf wedi i weithgarwch STEM Cymru 2 ddirwyn i ben a gall fod mor ddiweddar â 31 Rhagfyr 2026.
Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’ch data personol, fel a ganlyn, fodd bynnag nid yw’r holl hawliau’n berthnasol yn yr holl amgylchiadau.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at https://ico.org.uk/your-data-matters/
If you have any questions/queries relating to the above, or to make a Subject Access Request request, please contact info@stemcymru.org.uk
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â’n harweinydd diogelu data naill ai dros y ffôn neu’n ysgrifenedig:
Bob Cater
EESW
Canolfan Waterton
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3WT
Rhif Ffôn: 01656 669381
E-bost: info@stemcymru.org.uk
Byddwch yn derbyn ymateb o fewn yr amser penodedig gofynnol (mis fel arfer).
Os ydych chi'n cyfeirio at ddata a gasglwyd gennym fel Prosesydd Data (gweler yr adran Diben Casglu uchod), bydd eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (y Rheolwr Data).
Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data fel a ganlyn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif Ffôn: 016 2554 5297
E-bost: wales@ico.org.uk
Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Diwygiwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 7 Medi 2018. Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd a gallwn ei newid o dro i dro drwy ddiwygio’r dudalen hon i adlewyrchu’r newidiadau i’r gyfraith a/neu arferion preifatrwydd. Byddem yn eich annog i wirio’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd am unrhyw newidiadau.