Tystysgrif Her Sgiliau Uwch CBAC
Bydd Tystysgrif Her Sgiliau’n canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y byddwch eu hangen yn y dyfodol a bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu a’u hasesu drwy Brosiect Unigol a’r tair Her.
Nod Bagloriaeth Cymru yw eich galluogi i ddatblygu a dangos dealltwriaeth o sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd a hyfedredd ynddynt. Dyma’r sgiliau y mae cyflogwyr ac addysgwyr y cam nesaf yn rhoi gwerth arnynt ac mae eu hangen arnoch ar gyfer dysgu, gweithio a bywyd. Y saith sgìl hanfodol a chyflogadwyedd yw Llythrennedd, Rhifedd, Llythrennedd Digidol, Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, Cynllunio a Threfnu, Creadigrwydd ac Arloesedd ac Effeithiolrwydd Personol, a gellir datblygu’r cyfan ohonynt drwy’r Prosiect EESW.
Bydd STEMCymru’n caniatáu uchafswm o 8 aelod fesul tîm, fodd bynnag, os ydych yn bwriadu defnyddio eich prosiect ar gyfer Bagloriaeth Cymru ni chaniateir dros 6 aelod o’r tîm.
Her Menter a Chyflogadwyedd
Ar y lefel hon, gallwch gwblhau’r her hon fel unigolyn neu fel aelod o dîm yn cynnwys rhwng 3 a 6 aelod. Fodd bynnag, os ydych yn dewis dull unigol, disgwylir i chi gydweithio ag eraill yn ystod un o’r camau i gwblhau’r gweithgaredd. Rhagwelir y byddwch yn dewis menter arloesi sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar eich cyrchfan posibl yn y dyfodol. Cydnabyddir bod cymryd rhan ym Mhrosiect EESW yn ffordd o gyflawni’r Her hon.
Prosiect Unigol
Mae Bagloriaeth Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno Prosiect Unigol.
Mae’r cysylltiad agos â chwmni drwy ymgysylltu â Phrosiect STEMCymru yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio ar Brosiect Unigol. Dylai hwn fod yn wahanol i’r prosiect ei hun ond gall fod yna sawl cyfle ymylol i gyflawni’r rhan hon o’r Fagloriaeth.