Mae Her Jaguar Ysgolion Cynradd yn ymgysylltu â disgyblion ysgolion cynradd ac athrawon ar hyd a lled y DU.

Mae’r her yn agored i fyfyrwyr rhwng 5 a 11 oed ac yn cynnwys dylunio a chynhyrchu’r car cyflymaf posibl, gan efelychu’r prosesau dylunio a pheirianneg a ddefnyddir gan gwmnïau peirianneg go iawn, fel Ceir Jaguar.

Mae’r her ar gyfer tîm o 4 o ddisgyblion i ddylunio car rasio allan o gerdyn gydag olwynion, corff a gyrrwr bach. Byddant yn dylunio eu car gan ddefnyddio meddalwedd i gynhyrchu syniadau ar gyfer y dyluniad ac yna’n ei gynhyrchu ar dorrwr pwrpasol cyn paratoi’r car yn barod ar gyfer ei rasio.

Gwahoddir ysgolion cynradd i gymryd rhan drwy STEMCymru a hyb eu Hysgol Uwchradd leol.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.