Gall y myfyrwyr aros yn llety'r Brifysgol, mynd ar daith o amgylch y campws gydag israddedigion a mynychu sesiynau ar ffurf darlith a sesiynau ymarferol. Bydd y cyrsiau'n cynnig profiad go iawn o fywyd Prifysgol i'r disgyblion. Trefnir gweithgareddau gyda'r nos i roi cyfle i'r myfyrwyr gymdeithasu gyda myfyrwyr sydd â diddordebau tebyg.
Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau eleni isod ar agor nawr.
Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg
Cyflwyniad i'r sgiliau craidd sydd eu hangen yn Peirianneg Roboteg. Byddwch yn adeiladu robotiaid ac ymarfer ysgrifennu rhaglenni meddalwedd syml i'w rheoli.
Sesiynau Blasu Peirianneg
Yn Cynnwys peirianneg Awyrennol, Mecanyddol, peirianneg Sifil a Electronig. Hefyd yn cynnwys taith ffatri a thiwtorial Mathemateg ysbrydoledig.
Sesiynau Blasu Peirianneg
Peirianneg Awyrofod, Cemegol, Sifil, Electronig a
Thrydanol, Deunyddiau, Meddygol a Mecanyddol.
I wneud cais am y cwrs hwn ar-lein, cliciwch yma
Dylunio Cynnyrch
Tasg Dylunio cynnyrch yn seiliedig ar brosiectau a gefnogir gan hyfforddiant Autodesk 360.
Sesiynau Blasu Peirianneg
Sesiynau blas ar Beirianneg Modurol, Ynni, Chwaraeon Modur, Chwaraeon Eithafol, Gweithgynhyrchu Mecanyddol ac Amgylcheddol
Cyfrifiaduro Cymhwysol - Wedi'i ganslo
Sesiynau yn cynnwys codio, caledwedd, rhwydwaith, rhyngrwyd o bethau a diogelwch seibir
I wneud cais am y cwrs hwn ar-lein, cliciwch yma
Prosiect Dylunio Cynnyrch
Tasg Dylunio cynnyrch yn seiliedig ar brosiectau a gefnogir gan hyfforddiant Autodesk 360.
Mae'r cyrsiau yn RHAD AC AM DDIM ar gyfer myfyrwyr sy'n byw neu'n astudio yn y siroedd canlynol (a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop), neu fel arall bydd cost o £ 130 yn berthnasol. Mae hyn yn cynnwys yr holl lety, arlwyo a gweithgareddau gyda'r nos am gyfnod yr arhosiad.
Mae siroedd a ariennir yn cynnwys: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen. (Nodwch fod angen cadarnhad gan yr ysgol.)
Mae'r 50 lle cyntaf i fyfyrwyr sy'n byw yn y siroedd canlynol am ddim, unwaith y bydd y rhain wedi'u llenwi bydd cost o £ 130 yn berthnasol:
Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Wrecsam a Sir y Fflint
Gall myfyrwyr wneud cais i fynychu cwrs trwy lenwi ffurflen gais, a chaiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.