Dyma weithdy ar ynni y gellir ei ddarparu i grwpiau o hyd at 30 o fyfyrwyr a bydd cyfle i drafod arwyddocâd ynni a’r ffordd y caiff ei gynhyrchu.

Yna bydd myfyrwyr yn adeiladu tyrbin gwynt sy’n gweithio a byddant yn cynnal profion arno er mwyn mesur y foltedd a gynhyrchir ac addasu agweddau ar eu dyluniad er mwyn gwella’r allbwn mewn ymgais i greu’r tyrbin gwynt sydd â’r allbwn ynni mwyaf effeithlon.

Mae lle i hyd at 30 o fyfyrwyr ar y sesiynau ‘Tyrbin Gwynt’ ac maen nhw’n para 90 munud, fodd bynnag mae’r amseroedd yn hyblyg a gellir addasu sesiynau i gyd-fynd ag amserlen yr ysgol.

I archebu sesiwn yn eich ysgol, cysylltwch â ni.

 

Mae’r gweithdy hwn yn bodloni agweddau canlynol y cwricwlwm

RHIFEDD:
- Amcangyfrif y maint a defnyddio unedau cywir wrth fesur
- Blaenoriaethu camau i gwblhau tasg

LLYTHRENNEDD:
- Defnyddio a deall termau technegol
- Cyfathrebu syniadau a chytuno ar gamau mewn grwpiau

CYFLOGADWYEDD:
- Hyrwyddo meddylfryd o dwf
- Datblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau a rheoli amser
- Codi ymwybyddiaeth am yrfaoedd gwahanol yn y sector STEM