Yn y gweithdy hwn, caiff myfyrwyr eu harwain drwy gyfres o heriau i greu cylchedau gyda goleuadau LED, seinwyr a switshis a rhaglennu’r cylchedau hyn gan ddefnyddio meicroreoleiddiwr Crumble. Mae hwn yn gyflwyniad syml i raglennu gan ddefnyddio golygydd ar ffurf ‘Scratch’ ac mae’n addas ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Sylfaen 2 neu Gyfnod Sylfaen 3 is. Bydd myfyrwyr yn gorffen y gweithdy yn rhaglennu ‘Drawbots’ i greu patrymau gan ddefnyddio pin ffelt.
Mae lle i hyd at 30 o fyfyrwyr ar y sesiynau ‘Rheoleiddiwr Crumble’ ac mae’n para 2 awr, darperir gliniaduron ond bydd angen ystafell gyda socedi trydan.
I archebu sesiwn, cysylltwch â ni
Mae’r gweithdy’n bodloni agweddau canlynol y cwricwlwm
RHIFEDD:
- Amcangyfrif maint a defnyddio unedau cywir wrth fesur
- Blaenoriaethu camau i gwblhau tasg
LLYTHRENNEDD:
- Gwrando ar esboniadau o brosesau a nodi’r prif bwyntiau
- Cyfathrebu syniadau a chytuno ar gamau mewn grwpiau
- Defnyddio termau technegol a’u deall
DCF:
- Awgrymu a gwneud gwelliannau yn ddibynnol ar adborth a hunanwerthuso
- Rhagweld canlyniadau ar ôl gwneud addasiadau
- Defnyddio rhesymeg i ganfod ateb i broblem
CYFLOGADWYEDD:
- Hyrwyddo meddylfryd o dwf
- Datblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, a rheoli amser
- Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd codio yn y byd o’n cwmpas
- Magu hyder wrth ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd