Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn herio disgyblion i adeiladu car solar, casglu data ar y ffordd y mae eu car yn perfformio pan fydd wedi’i wefru i fathau gwahanol o foltedd ac yna llunio graff er mwyn rhagweld y foltedd fydd angen arnynt fel y gall eu dyluniad gyrraedd targed penodol.
Bydd disgyblion yn trafod arwyddocâd peirianneg ac ynni yn eu bywyd bob dydd ac yn gwerthuso manteision ac anfanteision strategaethau amrywiol yn ymwneud â chynhyrchu ynni ar gyfer y dyfodol.
Mae lle i hyd at 30 o fyfyrwyr mewn sesiynau ‘Energy Quest’ac maen nhw’n para 2 awr, fodd bynnag mae’r amseroedd yn hyblyg a gellir addasu sesiynau i gyd-fynd ag amserlen yr ysgol.
I ddysgu mwy ewch i Tomorrow’s Engineers
Mae’r gweithdy hwn yn bodloni gofynion canlynol y cwricwlwm
RHIFEDD:
- Mesur ac amcangyfrif
- Casglu a chofnodi data
- Dehongli canlyniadau
- Llunio graffiau priodol
LLYTHRENNEDD:
- Defnyddio a deall termau technegol
- Cyfathrebu syniadau a chytuno ar y camau mewn grwpiau
CYFLOGADWYEDD:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o bynciau STEM a pheirianneg yn y byd o’n cwmpas
- Hyrwyddo meddylfryd o dwf
- Datblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a rheoli amser
- Codi ymwybyddiaeth am yrfaoedd gwahanol yn y sector STEM