Beth yw cost cofrestru?
Ffi cofrestru’r Her yw £33.34 + TAW yn unig fesul tîm ac mae’n cynnwys:
Byddwch angen robot WeDo 2.0, sy’n costio tua £160 i’w brynu. Mae gan STEMCymru rywfaint o ddewisiadau cyllid ar gael i ysgolion yng Nghymru.
Bydd yr holl gyllid yn cael ei ddyrannu i ysgolion cymwys yn unig, ar sail y cyntaf i’r felin. Dim ond un ffi gofrestru gellir talu fesul ysgol.
Mae Cynghrair FIRST LEGO League Jr. yn rhaglen STEM gyffrous ar gyfer plant rhwng 6 a 9 oed. Bob blwyddyn caiff thema ei dewis sy’n berthnasol i’r byd o’u cwmpas fel y gall y plant ganolbwyntio arni yn eu gwaith. Mae’r timau’n ymchwilio i’r pwnc, yn arddangos eu syniadau ar ‘Boster Dangos i Mi’ ac yn adeiladu model symudol er mwyn helpu i gyfleu eu syniadau. Bydd y timau’n cyfarfod mewn rownd derfynol ranbarthol i ddathlu eu gwaith a’u llwyddiannau ac i gymryd rhan mewn diwrnod o hwyl.
Drwy gymryd rhan yn y digwyddiad, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwaith tîm, dylunio, rhaglennu a chyfathrebu.
Gallwch ganfod mwy am Gynghrair FIRST LEGO League Jr. ar wefan IET neu cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Sut mae’n gweithio?