Mae cofrestriadau ar gyfer ein digwyddiadau rhanbarthol bellach ar gau ar gyfer rownd cystadlu 2019-20.  

 

Gydol y tymor, bydd y timau angen y deunyddiau canlynol:

  • Set Robot LEGO MINDSTORMS (Robot EV3)
  • Cyfrifiadur neu lechen gyda meddalwedd i raglennu’r robot
  • Set Her Cynghrair FIRST LEGO
  • Lawrlwytho dogfennau o www.firstlegoleague.org/challenge
    • Cyfarwyddiadau Tasg Adeiladu Model
    • Canllaw Sefydlu’r Maes
    • Canllaw'r Her

 

Beth yw cost cofrestru?

Mae’r ffi cofrestru yn £180 fel arfer, sy’n cynnwys mynediad i’r gystadleuaeth a chit ar gyfer y Dasg. Gall STEMCymru ddarparu cymorth ar gyfer ysgolion yng Nghymru sy’n cofrestru gyda’r Gynghrair LEGO - gallwn gynnig ymweliadau ysgolion a hyfforddiant a gallwn ariannu’r gost o gofrestru.

Byddwch angen robot EV3, sy’n costio tua £250 i’w brynu. Mae gennym nifer cyfyngedig o robotiaid EV3 y gallwn eu benthyg i’r ysgol.

Bydd yr holl gyllid yn cael ei ddyrannu i ysgolion cymwys yn unig, ar sail y cyntaf i’r felin. Dim ond unwaith y gall pob ysgol gofrestru am arian. Gall ail dimau fod yn gymwys i ddisgownt o 50% oddi ar y ffi cofrestru yn unig. Bydd angen i unrhyw dimau eraill dalu’r ffi gofrestru’n llawn.

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) yn bartner i Gynghrair FIRST®LEGO® (FLL) yng Nghymru.

Mae FLL yn gystadleuaeth fyd-eang ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer timau o fyfyrwyr, er mwyn annog diddordeb mewn materion y byd go iawn a datblygu sgiliau allweddol sy’n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r myfyrwyr yn cydweithio fel tîm ac yn ymchwilio i bwnc a chynllun gwyddonol penodol, yn rhaglennu ac yn cynnal profion ar robot awtomatig i gyflawni sawl tasg.

Mae FLL ar gyfer pobl ifanc rhwng naw a 16 oed, i weithio mewn timau o hyd at ddeg gyda mentor cefnogol. Bob blwyddyn mae FLL yn cyhoeddi her newydd i’r timau. Caiff y timau rhwng deg a deuddeg o wythnosau yn ystod tymor yr hydref i gwblhau’r dasg a chynnal prawf ar wrthrych eu cais cyn cystadlu mewn Cystadleuaeth Ranbarthol o’u dewis ym mis Rhagfyr/Ionawr.

Gallwch ddysgu mwy am y gystadleuaeth ar wefan IET neu cysylltwch â ni.  

 

 

Bob blwyddyn mae thema newydd yn cael ei gosod ac mae timau’n gweithio i ddatblygu prosiect ymchwil a rhaglennu robot LEGO i gyflawni cyfres o dasgau perthnasol.  Mae timau’n cyfarfod yn y rowndiau terfynol rhanbarthol i ddathlu eu gwaith a bydd yr enillwyr yn mynd yn eu blaenau i rownd derfynol y DU ac Iwerddon lle byd tîm yn cael ei ddewis i gynrychioli’r DU yn y gystadleuaeth Ryngwladol.

Sut mae’n gweithio?

  • Ffurfiwch dîm o hyd at ddeg o ddisgyblion rhwng 9 a 16 oed, gyda dau hyfforddwr sy’n oedolion.
  • Cofrestrwch eich diddordeb gyda STEMCymru yma a byddwch yn derbyn ffurflen gofrestru – gweler isod am wybodaeth am gostau a’r grantiau sydd ar gael.
  • Lawrlwythwch y ddogfen her (pan fydd ar gael ar 1 Awst).
  • Hyfforddwch eich tîm drwy’r her (gall STEMCymru ddarparu cymorth)
  • Dewch â’ch myfyrwyr i’n digwyddiadau ym mis Rhagfyr/Ionawr (y gogledd a’r de) i gystadlu
 
Cystadleuaeth 2019-20 First LEGO League

Os ydych wedi'ch cofrestru i gymryd rhan yn her City Shaper eleni, gallwch lawrlwytho'r adnoddau o'n hadran adnoddau Cynghrair Lego Gyntaf, neu wylio'r fideo isod i ddarganfod mwy am y gêm robot.