Sut gall eich ysgol gymryd rhan?

Mae’r Big Bang @ School yn cefnogi ysgolion i ddarparu digwyddiad i gyffroi disgyblion am bynciau STEM a’u hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth neu beirianneg.  

Mae’r Big Bang @ School yn rhan o raglen y Near Me Big Bang, a arweinir gan EngineeringUK mewn partneriaeth â 200 a mwy o sefydliadau.  

Beth sydd angen i gynnal digwyddiad Big Bang @ School?

  • Mae’n rhaid iddo ddathlu egwyddorion STEM mewn rhyw ffordd. 
  • Mae’n rhaid cynnwys neges am yrfaoedd.

Os oes gan eich ysgol chi ddiddordeb cynnal wythnos STEM, beth am gynnal digwyddiad Big Bang? Gallwn ddod i’ch ysgol gydag amrywiaeth o weithdai i2E sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion.  

Cysylltwch â ni i drafod eich digwyddiad nesaf.