Yn y gweithdy hwn, caiff myfyrwyr eu harwain drwy gyfres o heriau lle byddant yn ysgrifennu cod gan ddefnyddio Javascript neu Python (yn ddibynnol ar allu) i symud car Microbit drwy gyfres o dasgau. Yna bydd y plant yn codio trosglwyddydd a derbynnydd, gan droi eu car yn gerbyd sy’n gweithio o bell y gallant ei ddefnyddio i gystadlu yn erbyn ei gilydd, gan addasu eu cod gydol y broses i wella eu cerbyd.

Mae lle i hyd at 30 o blant ar y gweithdy ac mae'n para 2 awr. Bydd angen defnyddio cyfrifiaduron, taflunydd lle gellir arddangos cyfarwyddiadau a rhywfaint o ofod llawr lle gall plant gynnal profion ar eu ceir. Gellir darparu gliniaduron ond bydd angen ystafell gyda socedi trydan.  

Mae gennym nifer o sesiynau gweithgaredd gan gynnwys "Space Junk" a Phlastig yn ein Moroedd.

I archebu sesiwn yn eich ysgol, cysylltwch â ni.

Mae’r gweithdy hwn yn bodloni agweddau canlynol y cwricwlwm

RHIFEDD: 
- Amcangyfrif maint a defnyddio unedau cywir wrth fesur
- Blaenoriaethu camau i gwblhau tasg

LLYTHRENNEDD: 
- Gwrando ar esboniadau o brosesau a nodi’r prif bwyntiau
- Cyfathrebu syniadau a chytuno ar gamau mewn grwpiau
- Defnyddio a deall termau technegol

DCF: 
- Awgrymu a gwneud gwelliannau yn ddibynnol ar adborth a hunanwerthuso - Nodi gwahanol rannau o’r broses e.e. newidynnau, dolennau a swyddogaethau
- Rhagweld canlyniadau ar ôl gwneud addasiadau
- Defnyddio rhesymeg i ganfod ateb i broblem
- Canfod a chywiro gwallau syml mewn algorithmau

CYFLOGADWYEDD: 
- Hyrwyddo meddylfryd o dwf
- Datblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, a rheoli amser
- Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd codio yn y byd o’n cwmpas
- Magu hyder wrth ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd