Mae rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn isod. Os hoffech drefnu ein bod yn darparu gweithgaredd yn eich ysgol, cysylltwch â ni.
Mae’r gweithdy hwn yn herio myfyrwyr i weithio mewn timau bach i ddylunio ac adeiladu car solar. Yna bydd timau’n casglu data ar y ffordd y mae eu car yn perfformio pan fydd yn cael ei wefru gyda mathau gwahanol o foltedd a defnyddio’r data hwn er mwyn ceisio cael eu car i ddod i ddiwedd ei daith ar darged penodol.
Yn y gweithdy hwn, bydd myfyrwyr yn creu cylched syml gan ddefnyddio ‘Meicroreoleiddiwr Crumble’ gyda goleuadau LED, switshis a seinwyr. Bydd myfyrwyr yn rhaglennu eu Crumble i weithredu’r cylchedau hyn.
Bydd myfyrwyr yn gweithio drwy gyfres o heriau i raglennu Microbit i weithredu model o gar. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu i greu car wedi’i reoli o bell a’i ddefnyddio i gwblhau’r her olaf.
Ar y ffordd! Cyfuno codio a Microbits i fynd i’r afael â’r broblem o Blastig yn y Môr.
I ddysgu mwy
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau i gydosod model sy’n gweithio o dyrbin gwynt, ac yna byddant yn ymchwilio i gymarebau gêr a dyluniad llafnau er mwyn cael y tyrbin gwynt gorau posibl er mwyn cynhyrchu’r foltedd uchaf posibl.
I ddysgu mwy
Mae Cynghrair FIRST LEGO yn her fyd-eang ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer timau o hyd at ddeg o fyfyrwyr rhwng 9 a 16 oed. Mae’r myfyrwyr yn cydweithio i ymchwilio i bwnc penodol ac yna’n dylunio, adeiladu a rhaglennu robot LEGO EV3 sy’n datrys cyfres o dasgau.
Bydd y timau’n cyfarfod yn y rowndiau terfynol rhanbarthol i ddathlu eu gwaith ac i ddewis tîm i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU.
Mae’r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn cynnwys timau o fyfyrwyr yn dylunio a chynhyrchu model o gar rasio F1 sy’n defnyddio C02 gan ddefnyddio meddalwedd dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu cyfrifiadurol soffistigedig (CAD/CAM).
Mae timau’n cystadlu am wobrau mawreddog gyda’r cyfle o gynrychioli Cymru yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a’r Byd.
I ddysgu mwy
Mae’r Glec Fawr @ Ysgol / Big Bang @ School yn cynorthwyo ysgolion i ddarparu digwyddiad sy’n cyffroi disgyblion ynglŷn â phynciau STEM ac yn eu hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth neu beirianneg.
Mae’r Glec Fawr @ Ysgol / Big Bang @ School yn rhan o raglen Near Me Big Bang ehangach, a arweinir gan EngineeringUK mewn partneriaeth â 200 a mwy o sefydliadau.