Mae STEMCymru’n cynnig detholiad o weithdai Cyflwyniad i Beirianneg (i2E) mewn ysgolion sydd â’r nod o ysgogi diddordeb pobl ifanc mewn pynciau STEM drwy weithgareddau ymarferol.

Gallwch ddarganfod mwy am bob un o'r gweithgareddau hyn isod neu cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.

Mae’r her ar gyfer tîm o 4 o ddisgyblion i ddylunio car rasio allan o gerdyn gydag olwynion, corff a gyrrwr bach. Byddant yn dylunio eu car gan ddefnyddio meddalwedd i gynhyrchu syniadau ar gyfer y dyluniad ac yna’n ei gynhyrchu ar dorrwr pwrpasol cyn paratoi’r car yn barod ar gyfer ei rasio.

I ddysgu mwy

 

Rheoleiddiwr Crumble

Yn y gweithdy hwn, bydd myfyrwyr yn creu cylched syml gan ddefnyddio ‘Meicroreoleiddiwr Crumble’ gyda goleuadau LED, switshis a seinwyr. Bydd myfyrwyr yn rhaglennu eu Crumble i weithredu’r cylchedau hyn.

I ddysgu mwy

 

BBC Micro:bit

Bydd myfyrwyr yn gweithio drwy gyfres o heriau i raglennu Microbit i weithredu model o gar. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu i greu car wedi’i reoli o bell a’i ddefnyddio i gwblhau’r her olaf.

I ddysgu mwy

Image result for fll discovery"

Mae’r rhaglen hon, sef y diweddaraf i ymuno â theulu Cynghrair FIRST® LEGO®, ar gyfer plant rhwng 4 a 6 oed, ac mae’n datblygu sgiliau STEM plant o oedran cynnar!

Cyflwynir her newydd a chyffrous bob blwyddyn i ddosbarthiadau cyfan, a gall plant weithio mewn grwpiau o bedwar er mwyn archwilio’r thema byd go iawn hon gyda model unigryw gan LEGO® Education Discovery.

I ddysgu mwy

Mae Cynghrair FIRST LEGO Iau yn rhaglen STEM ar gyfer disgyblion rhwng 6 a 9 oed. Fel gyda’r Gynghrair FIRST LEGO, mae timau o hyd at ddeg o fyfyrwyr yn ymchwilio i bwnc penodol, ac yn arddangos eu syniadau ar ‘boster Dangoswch i Mi’, ac yn adeiladu model LEGO sy’n helpu i gyfleu eu syniadau a rhaglennu un rhan o’u model i symud gan ddefnyddio Cit WeDo LEGO.

I ddysgu mwy

Mae Cynghrair FIRST LEGO yn her fyd-eang ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer timau o hyd at ddeg o fyfyrwyr rhwng 9 a 16 oed. Mae’r myfyrwyr yn cydweithio i ymchwilio i bwnc penodol ac yna’n dylunio, adeiladu a rhaglennu robot LEGO EV3 sy’n datrys cyfres o dasgau.  

Bydd y timau’n cyfarfod yn y rowndiau terfynol rhanbarthol i ddathlu eu gwaith ac i ddewis tîm i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU.

I ddysgu mwy