Mae STEMCymru’n cynnig detholiad o weithdai Cyflwyniad i Beirianneg (i2E) mewn ysgolion sydd â’r nod o ysgogi diddordeb pobl ifanc mewn pynciau STEM drwy weithgareddau ymarferol.

Mae rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn isod neu cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

 

Energy Quest

Mae’r gweithdy hwn yn herio myfyrwyr i weithio mewn timau bach i ddylunio ac adeiladu car solar. Yna bydd timau’n casglu data ar y ffordd y mae eu car yn perfformio pan fydd yn cael ei wefru gyda mathau gwahanol o foltedd a defnyddio’r data hwn er mwyn ceisio cael eu car i ddod i ddiwedd ei daith ar darged penodol.

I ddysgu mwy


 

BBC Micro:bit

Bydd myfyrwyr yn gweithio drwy gyfres o heriau i raglennu Microbit i weithredu model o gar. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu i greu car wedi’i reoli o bell a’i ddefnyddio i gwblhau’r her olaf.

I ddysgu mwy

 

Tyrbinau Gwynt

Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau i gydosod model sy’n gweithio o dyrbin gwynt, ac yna byddant yn ymchwilio i gymarebau gêr a dyluniad llafnau er mwyn cael y tyrbin gwynt gorau posibl er mwyn cynhyrchu’r foltedd uchaf posibl.

I ddysgu mwy

 

Rheoleiddiwr Crumble

Yn y gweithdy hwn, bydd myfyrwyr yn creu cylched syml gan ddefnyddio ‘Meicroreoleiddiwr Crumble’ gyda goleuadau LED, switshis a seinwyr. Bydd myfyrwyr yn rhaglennu eu Crumble i weithredu’r cylchedau hyn.

I ddysgu mwy

FIRST LEGO League

Mae Cynghrair FIRST LEGO yn her fyd-eang ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer timau o hyd at ddeg o fyfyrwyr rhwng 9 a 16 oed. Mae’r myfyrwyr yn cydweithio i ymchwilio i bwnc penodol ac yna’n dylunio, adeiladu a rhaglennu robot LEGO EV3 sy’n datrys cyfres o dasgau.

Bydd y timau’n cyfarfod yn y rowndiau terfynol rhanbarthol i ddathlu eu gwaith ac i ddewis tîm i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU.

I ddysgu mwy

Mae Cynghrair FIRST LEGO Iau yn rhaglen STEM ar gyfer disgyblion rhwng 6 a 9 oed. Fel gyda’r Gynghrair FIRST LEGO, mae timau o hyd at ddeg o fyfyrwyr yn ymchwilio i bwnc penodol, ac yn arddangos eu syniadau ar ‘boster Dangoswch i Mi’, ac yn adeiladu model LEGO sy’n helpu i gyfleu eu syniadau a rhaglennu un rhan o’u model i symud gan ddefnyddio Cit WeDo LEGO. 

I ddysgu mwy

Diwrnodau STEM

Mae’r Big Bang @ School yn helpu ysgolion i ddarparu digwyddiad sy’n cyffroi disgyblion am bynciau STEM a’u hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth neu beirianneg.  

Mae’r Big Bang @ School yn rhan o raglen ehangach y Near Me Big Bang, a arweinir gan EngineeringUK mewn partneriaeth â 200 a mwy o sefydliadau.  

I ddysgu mwy