"Mae'r gystadleuaeth F1 mewn ysgolion wedi rhoi ffocws gwych i'r adran a'r ysgol ar gyfer ystod o ddisgyblion sydd â meddwl technegol, creadigol ac sydd â diddordeb mewn busnes. Am yr ychydig fisoedd diwethaf mae'r myfyrwyr wedi ymgolli bob amser cinio wrth ddylunio cysyniadau , dysgu sut i ddefnyddio CAD 3D, cynllunio gweithgareddau, codi arian trwy gysylltu â noddwyr a gweithgynhyrchu'r ceir rasio. Dyma'r drydedd flwyddyn i'r ysgol gystadlu ac mae'r gystadleuaeth yn dod yn fwy a mwy poblogaidd."
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
"Mae disgyblion yn ymgysylltu o'r eiliad y maent yn cychwyn y prosiect, sgiliau bywyd go iawn sy'n gwella eu dysgu o'r cychwyn. Mae timau'n mynd i'r afael â heriau sy'n profi gwytnwch ac arloesedd, wrth ddatblygu gwaith tîm a chydweithio â busnesau a gweithgynhyrchwyr i greu'r car perffaith.
Mae'r sgiliau cychwynnol a ddysgir yn yr her hon yn caniatáu i'r disgyblion weithio gydag eraill a dysgu am gyfaddawdu ac amynedd.
Mae agweddau menter a pheirianneg y dasg yn caniatáu i ddisgyblion ymchwilio a datblygu gwybodaeth am broblemau go iawn sy'n gysylltiedig
i'r byd F1."
Coleg Sant Ioan Caerdydd
Mae timau’n cystadlu am wobrau mawreddog a’r nod yn y pen draw yw rasio eu ceir ar hyd ein trac am gyfle i ennill gwobr y car cyflymaf yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn cynnwys timau o fyfyrwyr yn dylunio a chynhyrchu model o gar rasio F1 sy’n defnyddio C02 gan ddefnyddio meddalwedd dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu cyfrifiadurol soffistigedig (CAD/CAM). Mae timau’n cystadlu am wobrau mawreddog gyda’r cyfle o gynrychioli Cymru yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a’r Byd.
Gall ysgolion gynnwys cynifer o ddisgyblion ag y dymunant a gallant gofrestru tri thîm o hyd at chwech o fyfyrwyr yn rowndiau rhanbarthol Cymru. Mae’r her yn ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau STEM a dysgu am ffiseg, aerodynameg, dylunio, gweithgynhyrchu, brandio, graffeg, nawdd, marchnata, arweinyddiaeth/gwaith tîm, sgiliau’r cyfryngau a strategaeth ariannol, a’u defnyddio mewn ffordd ymarferol, ddychmygol, gystadleuol a chyffrous.
Fel arall, gallwn ddarparu diwrnodau rasio yn yr ysgol yn eich ysgol, wedi'u teilwra i'ch anghenion. Gall hyn gynnwys dosbarthiadau cyfan neu grwpiau blwyddyn, a gellir ei gyflwyno yn neuadd eich ysgol. Gellir dewis timau buddugol i fynychu'r rowndiau terfynol rhanbarthol i gystadlu yn erbyn ysgolion eraill. Mae sesiynau AM DDIM i ysgolion uwchradd yng Nghymru, cysylltwch â ni i archebu neu i gael mwy o wybodaeth.
Mae’r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion wedi’i rhannu yn 3 dosbarth: Mynediad, Datblygiad a Phroffesiynol. Caiff timau eu hasesu ar gyflymder y car, y dyluniad peirianyddol, datblygiad, deunydd marchnata, arddangosfeydd y pydew a chyflwyniad geiriol.
Gwahoddir enillwyr Rownd Derfynol Ranbarthol Cymru i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU gyda’r cyfle i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol y Byd.
I ddysgu mwy cysylltwch â ni neu cofrestrwch yn uniongyrchol â F1 mewn Ysgolion.