Mae ein menter Denu Merched i Faes STEM yn rhaglen boblogaidd o ddigwyddiadau sy'n ceisio annog disgyblion benywaidd i ymddiddori'n ymarferol pynciau STEM cyn gwneud eu dewisiadau TGAU.

Trefnir ymweliadau â chwmni neu adran o brifysgol ar gyfer grwpiau sy'n cynnwys rhwng 8 a 45 o ddisgyblion.  Mae rhai o'n sefydliadau partner yn cynnwys:


Mae'r rhaglenni yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i'r cwmni/sefydliad
  • Taith o amgylch y safle
  • Gweithgareddau ymarferol
  • Sgyrsiau ysbrydoledig gan fodelau rôl ym maes STEM

Mae'r ymweliadau'n fuddiol iawn i'r disgyblion gan y byddant yn cael cipolwg ar sut y mae'r cwmni'n gweithredu, yn profi'r hyn sy'n digwydd yno ac yn datblygu gwerthfawrogiad o'r gwahanol
amgylcheddau gwaith sy'n bodoli.

 

Ymweliad â Chwmnïau

Trefnir ymweliadau â chwmnïau lleol fel y gall disgyblion gael cipolwg ar weithgareddau’r cwmni, cael profiad o’r hyn sy’n digwydd a datblygu gwerthfawrogiad o’r amgylcheddau gwahanol sy’n bodoli. Mae disgyblion yn cyfarfod gweithwyr cyflogedig sy’n trafod eu cefndir a’u rolau yn y cwmni, maen nhw’n cael taith o’r safle ac mae’r diwrnod yn cynnwys gweithgaredd ymarferol.

Fe’u hanogir i gynnwys eu harsylwadau yn eu pynciau yn yr ysgol, yn benodol STEM, a thrafod sut bydd eu dewis o bynciau TGAU yn dylanwadu ar eu llwybr gyrfa eu hunain posibl.

Ymweliad safle ysgol Lewis Girls

Ymweliad safle ysgol Lewis Girls

Ymweld â phrifysgolion

Mae disgyblion yn cael y cyfle i ymweld ag adrannau peirianneg mewn prifysgolion, lle byddant yn cael taith o’r cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan oruchwyliaeth staff prifysgol. Nod y diwrnod yw dangos sut beth yw bywyd prifysgol ac annog merched i ystyried mynd i brifysgol i astudio pynciau STEM.

Bydd y rhaglen ar gyfer pob ymweliad yn cynnwys y canlynol:

  • cyflwyniad i’r brifysgol;
  • amlinelliad byr o bynciau STEM yn y brifysgol;
  • gweithgareddau ymarferol;
  • trosolwg o’r diwrnod yn amlinellu cyfleoedd gyrfa i ferched mewn meysydd STEM;
  • holiadur gydag adborth disgyblion/athrawon